“Nid trwy lu ac nid trwy nerth, ond trwy fy ysbryd,” medd Arglwydd y Lluoedd..

Secharia 4:6

Croeso

Newyddion diweddaraf

Noson Cwis Teuluol CICiau

Bydd Clwb Ieuenctid Capel Coch (CICiau) yn cynnal Noson Cwis i’r teulu cyfan yng Ngwesty Dolbadarn, Llanberis am 7.00 o’r gloch, nos Wener, Mai 25.  Mae croeso cynnes i bobl o bob oed ymuno a ni. Byddwn yn trefnu’r timau er mwyn gofalu eu bod yn gyfartal, a bydd y cwestiynau yn addas ar gyfer [...]

Read Post

Pasg Efe

Roedd yna sŵn a gweithgarwch anarferol yn Ysgol Llanrug ddydd Llun, Ebrill 2.  ‘Anarferol’, am mai hwn oedd diwrnod cyntaf gwyliau’r Pasg, ac fel arfer tawelwch fyddai hanes yr Ysgol.  Ond hwn oedd diwrnod ‘Pasg Efe’, sef diwrnod o weithgareddau’r Pasg ar gyfer plant Bro’r Eco (Eco’r Wyddfa) o dan nawdd Cynllun Efe, yr elusen [...]

Read Post

Newid i CIC Llanrug

Bydd yna un newid mawr i CIC Llanrug y tymor yma – mewn ymateb i adborth cadarnhaol gan y bobl ifanc, caiff y cyfarfodydd eu cynnal bob wythnos (yn hytrach i bob pythefnos sydd wedi digwydd ers i’r clwb cael ei sefydlu).  Bydd hyn yn golygu y bydd rhagor o gyfieuon i’r ifanc clywed Gair [...]

Read Post

Pasg Efe

Cynhelir Diwrnod Gwyliau’r Pasg o dan nawdd Cynllun Efe ddydd Llun Ebrill 2 yn Ysgol Gynradd Llanrug am 10.00yb tan 2.00yh.  Diwrnod o gemau, gweithgareddau, crefft a Neges Y Pasg ydyw.  Mae’r diwrnod ar gyfer plant cynradd blwyddyn 3-6.  Bydd pob plentyn yr ardal yn derbyn taflen, llythyr a ffurflen caniatâd trwy’r ysgolion lleol.  Os [...]

Read Post