Cynhaliwyd Oedfa Comisiynu Susan Williams yn Weithiwr Plant, Ieuenctid a Theuluoedd Cynllun Efe, Caersalem Caernarfon a Scripture Union Cymru yng Nghanolfan y Capel, Caeathro nos Iau, Hydref 18. Diolch yn fawr i bawb a ddaeth yno i ddathlu efo ni, ac i gyflwyno Susan a’r gwaith i ofal yr Arglwydd. Roedd yn braf iawn bod […]
Cynhelir Cyfarfod Comisiynu Susan Williams yn Weithiwr Plant, Ieuenctid a Theuluoedd Cynllun Efe, Caersalem a Scripture Union yng Nghanolfan y Capel, Caeathro am 7.00 o’r gloch nos Iau, Hydref 18, 2018 Croeso cynnes i bawb
Cafwyd dwy awr lwyddiannus yn y Bore Hwyl yn Capel Coch ddydd Sadwrn, Hydref 6. Trefnwyd ar gyfer plant dan 7 oed ac roedd yn braf iawn cael croesawu plant a’u rhieni i’r capel. Roedd pawb yn amlwg wedi mwynhau’r neidio a’r paentio wynebau a’r gwaith crefft a’r canu a’r holl deganau. Diolch yn fawr […]
Bydd CIC Llanrug yn ail gychwyn yng Nghapel y Rhos am 7.00 o’r gloch, nos Wener Medi 21. Croeso cynnes i bawb o oed ysgol uwchradd. Poster CIC Llanrug Tymor 1
Mae’n braf cael dweud fod Susan Williams yn brysur yn barod yn ei swydd newydd fel Gweithiwr Plant, Ieuenctid a Theuluoedd Cynllun Efe. Mae wedi cychwyn ers dechrau mis Medi. Yn ogystal â gwaith Efe bydd Susan yn gweithio gydag eglwys Caersalem Caernarfon a Scripture Union Cymru. Mae CIC Llanberis wedi cyfarfod yn barod a […]
Mae’n chwith iawn gorfod cyhoeddi y bydd Catrin Hampton yn gadael ei swydd gyda Chynllun Efe (a Chaersalem, Caernarfon a Scripture Union Cymru) yr haf hwn. Mae hi a Corey ei gwr wedi cael eu penodi i swyddi gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn Sir Gaerfyrddin. Dymunwn yn dda i’r ddau wrth ddiolch i Catrin am […]
Rydw i wrth fy modd yn cael ymweld ag Ysgolion y Fro er mwyn rannu neges o’r beibl gyda nhw, ac yn ddiolchgar dros ben i’r holl ysgolion sydd yn rhoi croeso mor gynnes i ni bob tro. Y tymor yma rydym yn edrych ar hanes Ruth a Naomi, gan ymchwilio’r thema o ‘glynnu gyda’n […]
Waw! Sôn am benwythnos llawn cyffro a hwyl gawsom yng Nghwrs Ieuenctid Coleg y Bala! Cyrhaeddodd y bws mini nos Wener diwethaf i gludo criw ohonom o Lanberis a Chaernarfon i’r Bala, yn barod am benwythnos llawn gweithgareddau amrywiol a seminar ddyddiol i’n dysgu am y Beibl. Braf oedd gweld ffrindiau arbennig unwaith eto o […]
Diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth i’r Oedfa Gomisiynu yn Capel Coch nos Lun, Hydref 23. Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr oedfa. Diolch hefyd i bawb a fu’n trefnu’r bwyd a gafwyd wedi’r oedfa. A diolch i Catrin am ddod atom. A chroeso mawr!
Cyfarfod Comisiynu Catrin Hampton yn Weithiwr Plant, Ieuenctid a Theuluoedd Cynllun Efe, Caersalem Caernarfon a Scripture Union nos Lun, Hydref 23 am 7.00 o’r gloch yn Capel Coch, Llanberis. Bydd croeso cynnes i chi. Dowch i ddathlu’r penodiad ac i lawenhau gyda ni.