Cynllun Efe

Noson Cwis Teuluol CICiau
Bydd Clwb Ieuenctid Capel Coch (CICiau) yn cynnal Noson Cwis i’r teulu cyfan yng Ngwesty Dolbadarn, Llanberis am 7.00 o’r gloch, nos Wener, Mai 25.  Mae croeso cynnes i bobl o bob oed ymuno a ni.

Byddwn yn trefnu’r timau er mwyn gofalu eu bod yn gyfartal, a bydd y cwestiynau yn addas ar gyfer pob oedran.   Bydd bwyd ar gael am £7 i oedolion a £3.50 i blant i bwy bynnag fydd eisiau.  Bydd angen archebu bwyd ymlaen llaw trwy gysylltu ag Andrew Settatree ar 07929916181 neu gosodcoeden@hotmail.com.

Bydd gwobr o £20 i’r tîm buddugol, ac ail a thrydydd wobr o £10 a £5.

Bydd y noson yn gyfle hefyd i ni gael sôn rhywfaint am glwb CICiau Capel Coch a gwaith Cynllun Efe.

Cost mynediad yw £2 i oedolion a £1 i blant; a bydd unrhyw elw ar y noson er budd Gymorth Gristnogol.

Pasg Efe
Roedd yna sŵn a gweithgarwch anarferol yn Ysgol Llanrug ddydd Llun, Ebrill 2.  ‘Anarferol’, am mai hwn oedd diwrnod cyntaf gwyliau’r Pasg, ac fel arfer tawelwch fyddai hanes yr Ysgol.  Ond hwn oedd diwrnod ‘Pasg Efe’, sef diwrnod o weithgareddau’r Pasg ar gyfer plant Bro’r Eco (Eco’r Wyddfa) o dan nawdd Cynllun Efe, yr elusen Gristnogol leol sydd yn cenhadu i blant a phobl ifanc y fro.

Cychwynnodd y diwrnod am 10 o’r gloch, ac yr oeddem yn diolch i Dduw am anfon rhyw 24 o blant oedd yn cynrychioli pentrefi Llanberis, Llanrug, Waunfawr a Bethel ymhlith eraill.  Wrth i’r plant gyrraedd a chofrestru, roedd yna ddewis rhwng chwarae pêl-droed allan ar fuarth yr Ysgol, neu fynd i mewn i un o’r ystafelloedd dosbarth i wneud gwaith crefft ar destun y Pasg.  Does dim angen dweud, mae’n debyg,  bod yr opsiwn cyntaf yn fwy poblogaidd efo’r bechgyn, tra bod yr ail yn fwy poblogaidd efo’r merched!  Wedi’r gweithgareddau yma, daeth pawb ynghyd i neuadd yr Ysgol er mwyn clywed rheolau a threfn y diwrnod cyn canu rhai caneuon, o dan arweiniad abl Mrs Susan Williams, oedd yn ein hatgoffa am aberth Iesu Grist.

Cafwyd wedyn hanes cyntaf y diwrnod – hanes y Swper olaf – trwy gyfrwng darlleniadau dramatig, yn ogystal â thrwy ddangos clipiau o’r ffilm Gŵr y Gwyrthiau, oedd yn hynod bwerus.  Cafwyd wedyn gyfnod o gemau a chrefft ac egwyl, cyn symud ymlaen at yr ail hanes – hanes Iesu’n cael ei fradychu yn yr ardd, a’i brawf a’i farwolaeth drist, eto trwy gyfrwng darlleniadau dramatig a chlipiau o’r ffilm Gŵr y Gwyrthiau.  Cafwyd sesiwn fach arall o gemau a chrefft cyn i bawb nôl eu pecynnau bwyd ar gyfer amser cinio.

Cafwyd hanes olaf y dydd – sef hanes Iesu’n dod yn ôl yn fyw, buddugoliaeth Iesu dros bechod a marwolaeth, gobaith mawr y Gristion.  Wedyn, symudon ni ymlaen at ‘Gwis Mawr y Pasg’, efo’n cwis meistr ein hunain, Dafydd Pritchard wrth y llyw!  Cafwyd wedyn sgwrs i derfynu’r diwrnod gan Andrew Settatree, yn canolbwyntio ar wahanol lythyrau’r Gair CRIST a’i berthnasedd i neges y Pasg.  Y peth cyntaf oedd Cariad Duw a gafodd ei amlygu yn bennaf trwy ei Rodd werthfawr iawn i ni.  Wrth gwrs, y rhodd werthfawr honno oedd Iesu Grist ei hun, a’i aberth drud pan gymerodd y gosb am bopeth drwg roedden ni wedi ei wneud, er mwyn i ni fedru cael maddeuant pechodau.  Ond nid dyna oedd diwedd yr hanes, oherwydd ar Sul y Pasg fe atgyfododd Iesu,  gan guro pechod a marwolaeth unwaith ac am byth, fel y gallwn gael ein derbyn i mewn i berthynas iawn efo Duw.  Yn olaf, heriwyd y plant efo cwestiynau reit bersonol, ‘Beth amdanat Ti?  Beth a wnei di efo’r rhodd hon y mae Duw yn ei chynnig i ti o ganlyniad i’r hyn y mae Iesu wedi ei wneud?  Ei dderbyn neu ddim?  Yn sicr, mae hwn yn gwestiwn perthnasol iawn i bob un ohonom, gan fod neges y Pasg yn mynnu ymateb pendant i Iesu Grist.

Diolch yn fawr iawn i Mr Robin Williams, Pennaeth Ysgol Llanrug am gael defnyddio adeilad a chyfleusterau’r Ysgol.  Diolch hefyd i Mrs Gwenno Williams, Mrs Gwenno Hughes, Mrs Susan Williams, y Parchg John Pritchard a Mr Dafydd Pritchard am eu cyfraniad amhrisiadwy i’r diwrnod yma.  Ond wrth gwrs, mae’r diolch mwyaf yn mynd i’r Arglwydd am ei holl ffyddlondeb tuag aton ni ar y diwrnod.

Plîs, wnewch chi hefyd weddïo dros bob un o’r plant oedd yn bresennol, ar iddyn nhw i gyd ymateb yn gadarnhaol i Iesu Grist a chychwyn ar yr antur fwyaf erioed, a wnaed yn bosibl gan ddigwyddiad pellgyrhaeddol ac anhygoel y bore Sul hwnnw, ddwy fil o flynyddoedd yn ôl.

Newid i CIC Llanrug
Bydd yna un newid mawr i CIC Llanrug y tymor yma – mewn ymateb i adborth cadarnhaol gan y bobl ifanc, caiff y cyfarfodydd eu cynnal bob wythnos (yn hytrach i bob pythefnos sydd wedi digwydd ers i’r clwb cael ei sefydlu).  Bydd hyn yn golygu y bydd rhagor o gyfieuon i’r ifanc clywed Gair Duw a chael eu cynnal yn eu ffydd yn ogystal â bod yr holl hwyl a sbri yn cael eu dyblu!  i’r diben hwn byddwn yn freintiedig iawn cael cwmni Gwenno Teifi, Gweithwraig Gorllewin Meirionydd a Gogledd Cymru bob yn ail sesiwn.  Mae Gwenno wedi magu perthynas da efo’r gennod trwy weithgareddau Coleg Y Bala a bydd hi o gymorth aruthrol wrth i ni helpu’r ifainc tyfu yn eu hadnabyddiaeth o’r Arglwydd Iesu.

Mi ydan ni’n bwriadu gorffen y gyfres “Wyt ti go iawn” (The Cry of My Heart) gan Tim Hawkins, sydd yn mynd a ni trwy bregeth ar y mynydd er mwyn ein dysgu ni sut mae bod yn ddisgyblion go iawn i Iesu.  Ar ôl i’r gyfres yma dod i ben, byddwn yn dilyn cyfres “Hollol Newydd” (Totally Transformed) eto gan Tim Hawkins.  Ffocws y gyfres yma yw sut mae Iesu yn ein gwneud ni’n bobl newydd ym mhob agwedd o’n bywydau pan ddown ni ato mewn ffydd.

Bydd Mrs Susan Williams efo ni am y sesiynau eraill fel arfer ac rydym yn ddiolchgar iawn iddi hi am ei hymroddiad ffyddlon.  Am ragor o wybodaeth cewch glicio ar “Grwpiau”.  Mae croeso i unrhyw bobl ifanc Blwyddyn 7-11 dod i’r grŵp, hyd yn oed os nad ydan nhw erioed wedi mynychu unrhyw weithgarwch Cristnogol o’r blaen.

Pasg Efe
Cynhelir Diwrnod Gwyliau’r Pasg o dan nawdd Cynllun Efe ddydd Llun Ebrill 2 yn Ysgol Gynradd Llanrug am 10.00yb tan 2.00yh.  Diwrnod o gemau, gweithgareddau, crefft a Neges Y Pasg ydyw.  Mae’r diwrnod ar gyfer plant cynradd blwyddyn 3-6.  Bydd pob plentyn yr ardal yn derbyn taflen, llythyr a ffurflen caniatâd trwy’r ysgolion lleol.  Os hoffech chi i’ch plant ddod, a fyddech mor garedig ag anfon y ffurflen caniatâd yn ôl at y cyfeiriad a nodir cyn gynted â phosibl fel y gallwn gael rhyw syniad o ran niferoedd.  Bydd angen pecyn bwyd ar bawb sydd yn dod.  Cewch gysylltu efo fi ar 07929916181 neu gosodcoeden@hotmail.com.

Cewch lawrlwytho poster fan hyn:

Pasg Efe1

Penwythnos Hir Coleg Y Bala
Ymhen hir a hwyr roedd amser i fynd yn ôl i Goleg Y Bala am benwythnos hir-ddisgwyliedig gan lawer o bobl ifanc ar hyd a lled Cymru, yn enwedig pobl ifanc sy’n mynychu Clybiau Ieuenctid Cristnogol yn Llanrug a Llanberis..  Y rheswm oedd nid yn unig bod Penwythnos Ieuenctid arall ymlaen, ond ei bod yn Benwythnos hir y tro hyn!  Roedd hynny’n golygu bod y cwrs wedi cychwyn prynhawn Iau (yn hytrach nag amser swper nos Wener fel sydd arfer digwydd.  Ac roedd y bobl ifanc wrth eu boddhau gyda’r diwrnod ychwanegol o hwyl, cymdeithasu, addoli Duw a chlywed ei air.

Unwaith eto roedd y Coleg yn rhy fach i ddal pawb gan fod 76 o bobl ifanc wedi dod, felly oedd rhaid i’r bechgyn aros yng Nglan-llyn tra bod y prif gyfarfodydd wedi cymryd lle yn Neuadd Ysgol y Berwyn

Testun y penwythnos oedd Ffydd a dysgwyd llawer am hyn trwy edrych ar ddetholiad o arwyr ffydd yn Hebreaid 11.  Roedd y rhain yn cynnwys Noa, Rahab a Gideon.  Agorwyd y rhaglen dysgu gan Gwenno Teifi oedd yn sôn am y diffiniad o ffydd yn Hebreaid 11:1, hynny yw bod; “Ffydd ydy’r sicrwydd fod beth dyn ni’n gobeithio amdano yn mynd i ddigwydd. Mae’n dystiolaeth sicr o realiti beth dyn ni ddim eto’n ei weld.”  Heriodd Gwenno’r ifainc bod ffydd yn llawer mwy na ddim ond credu rhywbeth yn y pen gan ddefnyddio’r ddelwedd o gadair.  Mae’n bosibl credu bod cadair yn gallu dal eich pwysau, ond mae rhywun gwirioneddol yn dangos ffydd ynddo os wnân nhw bwyso arno!

Dysgon ni am ffydd Noa gan Joseff Edwards, y ffaith ei fod yn credu bod rhywbeth oedd erioed wedi digwydd o’r blaen (y llif) yn mynd i ddigwydd am fod Duw wedi dweud a’i ufudd-dod a dyfalbarhad i ddal ati adeiladu’r arch am 100mlynedd yn wyneb sarhad a gwawd ei gymdogion.

Dysgon ni am ffydd Rahab a’r ffaith bod Duw yn derbyn pobl pwy bynnag ydan nhw!

Cawsom hanes Gideon gan Owain a’r ffordd roedd Duw wedi ei ddefnyddio fe i ennill buddugoliaeth fawr yn erbyn gelynion Israel.  Cawsom her gan Steff ar fore dydd Sul bod rhaid i bob un o’r arwyr yma dewis naill ai ymateb i Dduw mewn ffydd neu ddim a bod canlyniadau gwahanol i’r ddau ddewis (bywyd neu farwolaeth).  Fe heriodd y bobl ifanc bod rhaid iddyn nhw yn yr un modd naill ai dderbyn Iesu mewn ffydd neu ddim.  Diolch i Dduw bod criw o bobl ifanc wedi dewis gwneud hynny ar y penwythnos a dod i ffydd byw yn Iesu!

Yn ogystal â’r sesiynau dysgu roedd yna Team Challenge efo gwahanol gemau cystadleuol gan gynnwys Sumo Wrestling, Croquette, Handball ac yn y blaen.  Roedd Bouncy assault course hefyd oedd yn andros o boblogaidd efo’r ifainc a’r arweinwyr.  Cawsom hefyd fersiwn Coleg Y Bala o wahanol Raglenni Teledu Poblogaidd fel ‘The Cube’, ‘Haribo Drop (yn seiliedig ar ‘The Million Pound Drop’) ac wrth gwrs ‘The X-factor’, efo One Direction yn perfformio unwaith eto.

Cafwyd hefyd sesiynau ychwanegol ar destun “Beth yw’r Eglwys’ a ‘Pam y dylen ni rannu Iesu efo’n ffrindiau’.  Cafwyd amser da a buddiol yn y grwpiau bach lle oedd cyfle i drafod ym mhellach yr hyn a chlywyd yn y sgyrsiau.

Diolchwn i Dduw am benwythnos mor anhygoel â’i ffyddlondeb parhaol tuag at y gwaith arbennig hwn.  Diolch yn arbennig am yr hyn a wnaed ganddo ym mywydau llawer o’r ifanc.  Plîs wnewch chi weddïo ar i Dduw parhau’r gwaith yno trwy gydol y flwyddyn yn eu bywydau o ddydd i ddydd, ac y daw hyd yn oed mwy o’r ifainc i’r Cwrs Haf a bydd Duw yn cyflawni pethau hyd yn oed fwy gan mai Duw mor fawr, pwerus a nerthol ydyw.

Hoffwn gloi efo adnod yma o Effesiaid 3:20 sydd yn crynhoi holl waith Duw dros y penwythnos yma:  ‘Clod iddo! Mae’n gwneud llawer iawn mwy na dim y bydden ni’n mentro gofyn amdano na hyd yn oed yn gallu ei ddychmygu!

Chwaraeon 110%
Y gobaith yw y gallwn fynd â chriw o bobl i’r diwrnod arbennig hwn.  Aeth rhai o’r bobl ifanc CIC15+ y llynedd a chawsant hwythau amser da.  Y mae’r diwrnod yn agored i bobl ifanc (merched a bechgyn) oedd Ysgol Uwchradd (Blwyddyn 7 ac i fyny).  Os hoffech chi archebu lle cewch naill ai cysylltu a’r Coleg (manylion cyswllt uchod) neu efo Andrew Settatree (Gweithiwr Ieuenctid Cynllun Efe) ar 07929916181 neu gosodcoeden@hotmail.com.

Gig Superhero ym Mangor
Gobeithir dod â chriw o bobl ifanc o Fro’r eco i’r noson hon yn y Gadeirlan, Bangor.  Mae manylion y noson wedi cael eu gyrru at y bobl ifanc.  Cost y tocynnau yw £5 yr un.  Y gobaith yw y gallwn drefnu bws i ddod â’r bobl ifanc yno ac yn ôl.  Os fydd gennych unrhyw diddordeb mewn dod neu eisiau tocynnau plîs cysylltwch efo fi ar 07929916181 neu gosodcoeden@hotmail.com.

Cwrs Ieuenctid Chwefror 2012
Cynhelir Cwrs Ieuenctid Chwefror 16-19 2012 yn ystod yr wythnos hanner tymor.  Y tro hyn caiff y cwrs ei chynnal dros benwythnos hir, felly bydd mwy o amser i fwynhau!  Y gobaith yw y bydd yna griw ohonom o Lanrug a Llanberis yn mynychu, a rhannu bws efo criw Felinheli a Bangor fel y gwnaethon ni ym mis Tachwedd.  Y gost ydi £65.  Os ydych â diddordeb mynychu, plîs wnewch chi anfon y ffurflen ganiatâd yn ôl at y Coleg ynghyd a’r blaendal o £10 erbyn 3ydd Chwefror.  Os oes arnoch angen y ffurflen cewch naill ai cysylltu efo’r Coleg ar 01678 520565 neu efo Andrew Settatree (Gweithiwr Ieuenctid Cynllun Efe) ar 07929916181.

Noson Arbennig Nadolig CICiau
Cynhaliwyd Noson olaf Ciciau Llanberis cyn y Gwyliau Nadolig nos Wener Rhagfyr 9 yng Nghapel Coch.  Gan mai hwn oedd y sesiwn olaf cyn Nadolig, Nadolig oedd thema’r noson.  Felly agorwyd efo amryw gemau Nadoligaidd – fel cystadleuaeth creu dyn eira (allan o bapur toiled!) a chystadleuaeth i weld pa dîm gallai taflu’r nifer mwyaf o ‘wotsits’ ar farf Santa (un o’r bobl ifanc efo ewyn eillio ar ei wyneb!).

Ar ôl i’n beirniad (Mr Pritchard) penderfynu pa ddyn eira oedd y gorau a pha farf Sïon Corn casglodd nifer mwyaf o Wotsits, cyrhaeddodd y pizzas!  Ac am Pizzas! Roedd hi’n amlwg bod y bobl ifanc wedi mwynhau’r pizzas gan nad oedd fawr o ddim byd ar ôl – y ganmoliaeth gorau posibl i’r siop tecawe yn Llanber!

Wedyn cafwyd sgwrs fer ar y diwedd am sut mae Chilli Con Carne yn debyg i Iesu’n dod i’r byd – hynny yw bod Chilli con carne yn golygu ‘Chillio mewn cig’ a ‘Duw mewn cig’ yw Iesu.  Bod Iesu wedi gadael y nefoedd i ddod i lawr i’r byd yma llawn llanast a phechod er mwyn dod yn un ohonom ni a marw dros y pethau drwg rydyn ni wedi ei wneud er mwyn i ni fedri gael perthynas efo Duw.  Ymhlith bob dim arall a ddigwyddodd ar y noson yma, ein gobaith a gweddi yw bod y neges yma yn aros yng nghalonnau a meddyliau’r bobl ifanc am weddill eu hoesau.

Diolch yn fawr i Dafydd, Gwenno a Mr Pritchard am eu holl gymorth ac ymdrechion ffyddlon i’r gwaith pwysig hwn.

Diwrnod Gwyliau Nadolig Efe
Roedd Y Ganolfan yn Llanberis yn llawn prysurdeb a swn plant ddydd Llun, Rhagfyr 19, 2011 gyda 36 o blant yn mwynhau diwrnod o weithgareddau ‘Nadolig Efe’.

Trefnwyd y cyfan dan nawdd Cynllun Efe, y genhadaeth Gristnogol i blant a ieuenctid pentrefi godre’r Wyddfa.  Roedd yn ffordd arbennig iawn o ddechrau gwyliau Nadolig yr ysgol i’r plant, a chafwyd diwrnod cyfan o ddysgu am y Nadolig trwy gyfrwng crefftau, gemau, canu a sgyrsiau am gymeriadau Stori’r Geni.  Cafwyd hwyl fawr wrth weld pypedau ar y sgrin yn cyflwyno’r Stori yng ngeiriau cymeriadau fel Mair, Joseff, y bugeiliaid a’r doethion.

Roedd yn braf iawn gweld plant o sawl pentref yn y fro yn ymuno â’i gilydd yn yr hwyl.  Roedd rhai ohonynt wedi gweld ei gilydd mewn gweithgareddau tebyg o’r blaen, ac eraill yn cyfarfod am y tro cyntaf.  Ond ymunodd pawb yn y gweithgareddau gan fwynhau eu hunain yn fawr.

Trefnwyd y gweithgareddau gan Weithiwr Ieuenctid Cynllun Efe, Andrew Settatree.  Roedd y canu yng ngofal Susan Williams, Ceunant, a’r gwaith crefft yng ngofal Alun Ellis, Waunfawr a Gwenno Hughes, Caernaerfon efo Elin Roberts, Llanberis yn cadw sgor ac yn dosbarthu gwobrau!  Diolch yn fawr iawn iddyn nhw gyd am eu cyfraniad ffyddlon a brwdfrydig – ni fyddai’r diwrnod wedi bod yn bosibl oni bai amdanyn nhw.

Cawsom amser da yng nghwmni’r plant, a diolchwn i Dduw am eu hymateb brwdfrydig i’r hyn a glywsant am eni’r Gwaredwr.  Edrychwn ymlaen at gynnal gweithgarwch tebyg yn fuan eto.

Gweddiwch dros waith a chenhadaeth Cynllun Efe os gwelwch yn dda, ynghyd â mentrau a chenadaethau tebyg ymhlith plant ac ieuenctid mewn ardaloedd eraill yng Nghymru.  Gweddiwch yn arbennig dros y gweithwyr ifanc brwdfrydig sy’n arwain y gwaith hwn, iddynt gael eu calonogi a’u nerthu wrth gyflawni eu gwaith yn enw Iesu Grist.

John Pritchard