Gweithiwr Newydd – Croeso, Catrin

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Newyddion da!  Mae Cynllun Efe wedi penodi Gweithiwr newydd.  Bydd Catrin Ruth Hampton yn cychwyn ei swydd newydd fel Gweithiwr Plant, Ieuenctid a Theuluoedd Efe ar Fedi 1af, 2017.  Mae hon yn swydd lawn amser mewn cydweithrediad ag Eglwys y Bedyddwyr yng Nghaersalem, Caernarfon a Scripture Union.  Bydd Catrin yn gwasanaethu Eglwys Caersalem am ddiwrnod a hanner yr wythnos, a bydd diwrnod yr wythnos yn cael ei neilltuo i genhadaeth trwy chwaraeon dan nawdd Scripture Union, gyda gweddill yr amser yn ardal Efe.  Rydym yn cydnabod arweiniad Duw a chydweithrediad Caersalem a Scripture Union sydd wedi’n galluogi i fentro ymlaen yn hyderus i benodi Catrin i’r swydd hon am y tair blynedd nesaf.  Edrychwn ymlaen at gydweithio â Catrin ac â’n gilydd i ddatblygu ymhellach y gwaith y bu Cynllun Efe yn ei wneud ers mis Hydref 2008 dan arweiniad ein Gweithiwr Ieuenctid blaenorol, Andrew Settatree.

Daw Catrin yn wreiddiol o Lansannan.  Mae ganddi brofiad o waith Cristnogol a chenhadol trwy ei chysylltiadau â Choleg y Bala, Y Gorlan yn yr Eisteddfod Genedlaethol a LLANW, yn ogystal ag yn yr eglwysi y bu’n gysylltiedig â hwy.  Mae wedi gweithio fel nani ac fel gweinyddydd, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio fel Cydlynydd Iechyd a Llesiant gyda Medrwn Môn.  Mae’n croesawu’r cyfle newydd hwn i wasanaethu’r eglwysi a Chynllun Efe yn enw yr Arglwydd Iesu, ac yn edrych ymlaen yn fawr at ddod atom ym mis Medi.

Mae’n briod â Corey ac yn byw yng Nghaernarfon ers blwyddyn a hanner.  Mae’r ddau wedi ymgartrefu yn yr eglwys yng Nghaersalem ers symud i’r Dre.

Bwriedir cynnal Oedfa Gomisiynu ym mis Medi.

Llongyfarchiadau gwresog i Catrin ar ei phenodiad, a dymuniadau gorau a phob bendith iddi yn ei gwaith.

 

Comments are closed.