Pwy ydy pwy
Ein Gweithiwr
Catrin Hampton
Daw Catrin yn wreiddiol o Lansannan, ac yn y blynyddoedd diwethaf mae wedi graddio o Fanceinion gyda gradd Hanes a Chymdeithaseg, ac wedi treulio amser yn gweithio yn Llundain a Loughborugh cyn dychwelyd i Gymru. Mae’n briod â Corey ac yn byw yng Nghaernarfon. Cafodd ei phenodi yn Weithiwr Plant, Ieuenctid a Theuluoedd Cynllun Efe dan drefniant newydd ar y cyd ag eglwys Caersalem, Caernarfon a Scripture Union. Dechreuodd yn ei swydd ym mis Medi 2017.
Yr Ymddiriedolwyr
Y Parchg John Pritchard
Mae John yn weinidog yn ei fro enedigol gan iddo gael ei fagu yn Llanberis. Mae’n weinidog eglwysi Annibynnol Ebeneser, Deiniolen a Nant Padarn, Llanberis ac eglwysi Presbyteraidd Cefnywaun, Deiniolen, Capel Coch, Llanberis a Rehoboth, Nant Peris ers mis Hydref 1988, ac eglwysi Annibynnol Carmel, Llanllechid a Bethlehem, Talybont ers Ionawr 2015. Rhwng Hydref 2008 a diwedd 2014, ef oedd Golygydd Y Pedair Tudalen gydenwadol yn y papurau enwadol wythnosol.
Y Parchg Ddr Carol Roberts
Mr Clive James
Mae Clive yn byw yng Nghaernarfon erbyn hyn, ond yn aelod o Gapel Caeathro ers iddo symud i’r ardal yn 1972. Mae hefyd yn Gynghorydd Cymuned ac yn Gadeirydd Pwyllgor Cae Chwarae pentref Caeathro. Mae’n un o Ymddiriedolwyr Clwb Rygbi Caernarfon ac yn ddyfarnwr rygbi. Ef yw Ysgrifennydd Ymddiriedolaeth Cynllun Efe.
Mr Richard Lloyd-Jones
Athro wedi ymddeol (yn gynnar!) yw Richard. Mae’n byw ym Methel ac yn flaenor yng nghapel Cysegr, Bethel. Mae’n pregethu’n rheolaidd yng nghapeli’r ardal. Mae’n llais cyfarwydd ar raglenni chwaraeon Radio Cymru, ac wrth ei fodd yn trafod criced a phel droed yn arbennig. Ef yw Golygydd Chwaraeon Eco’r Wyddfa ers ymhell dros 20 mlynedd.
Mrs Susan Williams
Mae Susan yn athrawes yn Ysgol Rhiwlas ac Ysgol Bontnewydd. Mae’n byw yng Ngheunant, Llanrug. Bu’n gwasanaethu am gyfnod fel Darllenydd Lleyg yn yr Eglwys yng Nghymru. Mae’n gantores ac yn gerddor dawnus, ac mae wedi cyhoeddi C.D. o ganeuon Cristnogol. Mae wedi bod yn arwain addoliad ers blynyddoedd. Mae’n arwain CIC Llanrug gydag Andrew Settatree.
Parchg. Marcus Robinson
Wedi blynyddoedd o wasanaethu fel caplan yn y Llynges, dychwelodd Marcus i fro ei febyd i fod yn Weinidog ar gapeli Presbyteraidd yn Llanrug, Bethel, Brynrefail a Chaeathro.
Ein Gweithiwr Cyntaf
Andrew Settatree
Andrew oedd Gweithiwr Ieuenctid cyntaf Cynllun Efe. Bu’n gwasanaethu Efe o fis Hydref 2008 hyd ddiwedd Chwefror 2017. Mae bellach yn gwasanaethu Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn ardal Dwyfor. Dymunwn bob bendith iddo gan ddiolch iddo am ei waith ffyddlon yn ein plith ar hyd y blynyddoedd.